Mae disgynnydd un o sefydlwyr y Wladfa ym Mhatagonia, ymysg y tair dynes o’r Ariannin sydd wedi derbyn ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg yng Nghymru dros yr haf.
Bydd Noelina Sánchez Jenkins, ynghyd ag Alcira Williams a Mariel Jones, yn treulio mis yn dilyn cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Fe ddechreuodd Noelina Sánchez Jenkins ddysgu Cymraeg pan oedd hi’n 14, ac mae’n debyg yr oedd ei hen hen daid, Aaron Jenkins, ymysg teithwyr llong y Mimosa a hwyliodd i Batagonia yn 1865.
Athrawes o Drelew yw Alcira Williams, sydd yn dysgu yn Ysgol yr Hendre, Patagonia. Hi oedd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod y Wladfa yn 2015.
Mae Mariel Jones hefyd yn athrawes yn Ysgol yr Hendre ac yn dysgu Sbaeneg i’r disgyblion lleiaf. Mae hi’n gobeithio gwella ei Chymraeg er mwyn medru dysgu’r plant.
“Perthynas unigryw”
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sydd wedi ariannu’r ysgoloriaethau gwerth £2,000, fydd yn galluogi iddyn nhw astudio cwrs ‘Dysgu Cymraeg Ceredigion – Powys – Sir Gâr’.
“Rydyn ni’n falch o gynnig y tair ysgoloriaeth yma i Mariel, Alcira, a Noelia i dreulio mis gyda ni yn dysgu’r Gymraeg,” meddai Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Efa Gruffudd Jones.
“Rydyn ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a Phatagonia, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau yn y Wladfa.”