Mae dyn 34 oed wedi’i arestio ac yn cael ei holi yn Swyddfa’r Heddlu Bae Caerdydd, yn dilyn digwyddiad ar waelod Heol y Gadeirlan yn y brifddinas.
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw tua 11 o’r gloch fore Gwener, yn dilyn adroddiadau fod gan y dyn arf. Fe gafodd heddlu arfog, rhag ofn, eu hanfon i ddelio â’r digwyddiad ym mhen isaf y ffordd yng nghanol Caerdydd.
Fe fu Heol y Gadeirlan Isaf ar gau am gyfnod, ac roedd gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal.
Yn ol Heddlu De Cymru, does yna neb wedi’i anafu yn ystod y digwyddiad, ac mae disgwyl i’r ffordd ail-agor yn fuan.
Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n trin y digwyddiad fel un yn ymwneud â brawychiaeth.