Mae cynllun i adeiladu gorsaf drenau yn Bow Street ger Aberystwyth yn derbyn miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Fe ddaeth cadarnhad gan yr Adran Trafnidiaeth y bydd y cynllun yn derbyn £3.945m ar gyfer adeiladu’r orsaf, ynghyd â safle bysiau a maes parcio.
Roedd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol wedi gwneud cais am fuddsoddiad gwerth tri chwarter o gost y prosiect £6.8m. Dywedodd yr Adran Trafnidiaeth mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fyddai diogelu gweddill y cyllid am y cynllun.
Mi fydd cynlluniau i adeiladu pedwar gorsaf yn Lloegr hefyd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae disgwyl i bob gorsaf gael eu cwblhau erbyn Mawrth 2020.
“Teithiau gwell”
“Rydym wedi ymrwymo i wella teithiau i bobol ledled y wlad,” meddai’r Gweinidog Rheilffyrdd, Paul Maynard. “Mae hyn yn golygu mwy o drenau, teithiau cyflymach a gwella argaeledd seddi.”
“Mae’r gronfa gorsafoedd newydd yn enghraifft berffaith o sut mae ein buddsoddiad mewn rheilffyrdd a’n gwaith ag awdurdodau lleol yn arwain at deithiau gwell ac yn hybu economïau lleol.”