Mae S4C wedi cadarnhau y bydd y rhaglen Hacio yn dod i ben, ond mae’r sianel yn dweud fod trafodaethau’n parhau ynglyn â datblygu gwasanaeth newydd ar-lein.
Fe gafodd y rhaglen faterion cyfoes ei sefydlu yn 2000 i hyfforddi newyddiadurwyr ar gyfer rhaglen y Byd ar Bedwar. A heddiw, mae cyn-Uwch Gynhyrchydd y gyfres honno yn dweud iddi fod yn “fagwrfa amhrisiadwy”.
Yn ol Eifion Glyn, fe wnaeth y rhaglen “waith gwych” yn rhoi profiadau i nifer o newyddiadurwyr – yn cynnwys Kate Crockett a Catrin Haf Jones – gan dyfu dros amser i fod yn “rhaglen safonol ynddi hun”, meddai.
“Mi roedd Hacio yn rhoi cyfle i bobol arbrofi ac i bobol ddysgu’r ystod o sgiliau sydd angen ar gyfer bod yn newyddiadurwr teledu,” meddai Eifion Glyn wrth golwg360. “Mi ddaeth hi’n rhaglen dda lle wnaeth pobol fwrw eu prentisiaeth fel newyddiadurwyr teledu.
“Roedden nhw’n cael y cyfle ar y cychwyn i wneud popeth eu hunain: ymchwilio, ffilmio, golygu, bras olygu ac, wrth gwrs, gohebu. Mi roedd hi’n fagwrfa amhrisiadwy i nifer o newyddiadurwyr da dros y blynyddoedd.”
Cynlluniau S4C
Mae S4C yn dweud iddi gynnal “arolwg o’i darpariaeth materion cyfoes” a’r hyn sy’n dod yn benodol o stabl ITV Cymru, ac mai’r penderfyniad yw i “ail-strwythuro adnoddau” er mwyn darparu rhagor o adroddiadau ac ymchwiliadau treiddgar Y Byd ar Bedwar yn yr amserlen deledu.
Fe fydd materion cyfoes wedi’i anelu’n benodol at bobol ifanc ar “lwyfan ffurf fer ar-lein,” meddai Pennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C, Llion Iwan.
“Mi fydd cyfanswm oriau ein darpariaeth materion cyfoes yn aros yr un fath, ond rydym yn ail gynllunio patrwm y rhaglenni ac mae newid cyfresi a’u hesblygu yn rhan naturiol o’r byd darlledu,” meddai wedyn.
“Yn y cyfamser, mae Hacio yn parhau i roi llwyfan i leisiau ifanc yr wythnos hon, gyda thrafodaeth Hacio’n Holi yn cael ei chynnal ar faes Y Sioe Frenhinol.”