Mae Rheolwr Cyhoeddi Gomer wedi amddiffyn camau dadleuol diweddar y cwmni a arweiniodd at anghydfod staffio a cholli to o olygyddion profiadol.
Mae Meirion Davies wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod y cwmni yn “hollol dawel” eu meddwl fod y broses ailstrwythuro “wedi bod yn deg a chyson”.
Hefyd mae’r dyn fu’n Bennaeth Cynnwys S4C wedi pwysleisio bod ymrwymiad Gwasg Gomer “i gyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg yr un mor gadarn ag erioed”.
Yn y gwanwyn fe benderfynodd y cwmni dorri wyth swydd yn yr adrannau golygyddol a marchnata, a chreu pedair newydd yn eu lle.
Y pedair swydd newydd yw Golygydd Cymraeg, Golygydd Saesneg, Swyddog Hyrwyddo ac Ymgyrchoedd, a Swyddog Marchnata Digidol.
Fe benderfynodd pob un o’r wyth aelod o staff dan sylw – gan gynnwys y golygyddion uchel-eu-parch fel Ceri Wyn Jones ac Elinor Wyn Reynolds – beidio ag ymgeisio am y swyddi newydd a chymryd diswyddiadau gwirfoddol.
Ar y pryd mi wnaeth un o’r cyn-olygyddion, yn ddienw, gyhuddo’r cwmni yn Golwg o “gefnu” ar staff profiadol.
“Roedd yna swyddi i gael i gystadlu amdanyn nhw; penderfyniad unigolion oedd dewis peidio â gwneud,” meddai Meirion Davies a gychwynnodd yn ei swydd adeg yr ailstrwythuro.
“Perffaith hawl ganddyn nhw i wneud y dewis yna, ond mi oedd yna swyddi i fynd amdanyn nhw. Ond mewn strwythur wahanol gyda chyfrifoldebau gwahanol a hefyd mewn lleoliad gwahanol – ffactorau a fyddai wedi effeithio ar benderfyniad unigolion i ddewis.
“Mae Gomer yn parhau yn union fel yr oedd hi o’r blaen, ond yn hanfodol ym maes busnes, mae’n rhaid i bob cwmni o bryd i’w gilydd edrych i sicrhau ei sefyllfa o safbwynt cynaladwyedd a’u bod nhw’n fasnachol ac i bwrpas.”
Pwy yw’r golygyddion newydd?
Golygyddion llyfrau Cymraeg newydd Gomer yw’r cynhyrchydd teledu Beca Brown a chyn-Gyfarwyddwr Galeri Caernarfon, Mari Emlyn.
Yn ymuno â’r ddwy, mae’r cyflwynydd teledu Nia Parry, y golygydd llyfrau plant Cymraeg newydd, a’r awdur Bethan Gwanas, y Golygydd Projectau arbennig i oedolion ifanc.
Meirion Davies yn galw am fwy o lyfrau digrif – yn Golwg yr wythnos yma.