Yr ail bont - cytundeb tollau wedi ei arwyddo adeg ei chodi (Mattbuck CCA2.0)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi beirniadu amseru’r cyhoeddiad am ddileu tollau tros bontydd Afon Hafren.
Roedd yn “ymgais ddespret”, meddai Carwyn Jones, i symud y sylw oddi wrth y cyhoeddiad ddoe na fydd rheilffordd de Cymru’n cael ei thrydaneiddio.
Roedd Llywodraeth Prydain wedi addo gosod gwifrau trydan cyn belled ag Abertawe ond, ddoe, fe gyhoeddon nhw na fyddai hynny’n digwydd.
Mae Carwyn Jones wedi eu cyhuddo o dorri’r addewid i bobol Cymru.
Amddiffyn tro pedol
Fe fu Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn amddiffyn y penderfyniad hwnnw eto y bore yma.
Mewn cyfweliadau radio fe ddywedodd y byddai trenau tebyg i drenau bwled Japan yn cael eu defnyddio ar y lein – rhai sy’n gallu defnyddio disel neu drydan.
O ganlyniad, meddai, fyddai’r daith o Gaerdydd i Abertawe ddim mymryn hwy nag ar drenau trydan.