Jason Mohammad
Mae’r BBC wedi datgelu bod y cyflwynydd Jason Mohammad yn ennill mwy o gyflog na rhai o gyflwynwyr chwaraeon mwyaf profiadol y Gorfforaeth – gan gynnwys John Inverdale a Gabby Logan.
Yn ôl y ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi, mae’r Cymro Cymraeg yn ennill rhwng £250,000 a £299,999 y flwyddyn – tra bod y ddau arall yn derbyn rhwng £200,000 a £249,999.
Mae Jason Mohammad yn cyflwyno rhaglenni rygbi, snwcer a chanlyniadau pêl-droed y BBC, ac fe fu’n cyflwyno rhaglenni’r Gemau Olympaidd o Rio y llynedd. Mae hefyd yn gyflwynydd achlysurol ar Match of the Day.
Mae’r sylwebydd rygbi, Jonathan Davies, yn ennill rhwng £150,000 a £199,999 – yr un faint â’r gyflwynwraig Clare Balding (er ei bod hi’n ennill arian ychwanegol drwy ei chwmni cynhyrchu ei hun); y sylwebydd tenis John McEnroe a’r sylwebydd criced, Jonathan Agnew.
Cyflogau Cymry eraill
Mae John Humphrys, y newyddiadurwr o Gaerdydd sy’n cyflwyno Today ar Radio 4, yn ennill rhwng £600,000 a £649,999 y flwyddyn, tra bod y cyflwynydd newyddion Huw Edwards yn ennill rhwng £550,000 a £599,999.
Mae Alex Jones, sy’n cyflwyno The One Show, yn ennill rhwng £400,000 a £499,999 – un o brif enillwyr benywaidd y Gorfforaeth.
Prif gyflogau o fyd y campau
O blith y cyflwynwyr chwaraeon, cyflwynydd Match of the Day, Gary Lineker sydd ar frig y rhestr (£1.75 miliwn). Mae e hefyd yn ennill arian ychwanegol drwy ei gwmni cynhyrchu ei hun, sy’n cynhyrchu rhaglenni amrywiol i’r Gorfforaeth.
Dim ond y cyflwynydd Radio 2 Chris Evans (£2.25 miliwn) sy’n derbyn mwy o gyflog na Gary Lineker.
Mae ei gyd-gyflwynydd ar y rhaglen, Alan Shearer yn ennill pedair gwaith yn llai – rhwng £400,000 a £449,999.
Sue Barker yw’r gyflwynwraig chwaraeon sy’n ennill y cyflog mwyaf – rhwng £300,000 a £349,999.
Mae John Inverdale a Gabby Logan, sy’n cyflwyno rhaglenni am gampau amrywiol, yn ennill rhwng £200,000 a £249,999.
Mae’r sylwebydd tenis John McEnroe a’r sylwebydd criced Jonathan Agnew yn ennill rhwng £150,000 a £199,999.
Enillwyr mawr eraill
Ddyddiau’n unig ers cyhoeddi mai Jodie Whittaker fydd y Doctor Who nesaf, fe ddaeth cadarnhad bod y Doctor presennol, Peter Capaldi yn derbyn cyflog o £200,000 i £249,999 ar gyfer y rhaglen sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd – yr un faint â dau o sêr EastEnders, Danny Dyer ac Adam Woodyatt.
Mae prif seren Casualty, Derek Thompson, sy’n chwarae’r cymeriad Charlie Fairhead, yn ennill rhwng £350,000 a £399,999. Mae Amanda Mealing, seren Holby City, y rhaglen gysylltiol sydd hefyd yn cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd, yn ennill rhwng £250,000 a £299,999.