Llys y Goron yr Wyddgrug
Fe fydd dyn a gafwyd yn euog o dreisio a lladd merch 15 oed yn 1976 yn cael ei ddedfrydu heddiw.

Cafwyd hyd i gorff Janet Commins mewn cae ysgol yn y Fflint ddyddiau ar ôl iddi fynd ar goll o’i chartref ar 7 Ionawr 1976.

Cafwyd Stephen Hough, 58, yn euog o ddynladdiad, treisio ac ymosod yn rhywiol yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau diwethaf. Fe’i cafwyd yn ddieuog o lofruddiaeth.

Roedd dyn arall, Noel Jones, a oedd yn 18 oed ar y pryd, wedi treulio chwe blynedd dan glo ar ôl iddo bledio’n euog i ddynladdiad.  Cafodd ei garcharu am 12 mlynedd ar ôl dweud iddo gael ei “orfodi” i wneud cyffesiad ffals gan yr heddlu.

Yn 2006 cafodd adolygiad o’r dystiolaeth wyddonol yn yr achos ei gynnal a chafodd DNA dyn ei adnabod o’r samplau gafodd eu cymryd o gorff Janet Commins.

Cafodd Stephen Hough ei arestio yn 2016 ar ôl cydweddiad prawf DNA yn ymwneud a mater arall.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn cynnal ymchwiliad i’r modd yr oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi delio gyda’r achos gwreiddiol.