Llun gwneud o Ysbyty Athrofaol y Grange (Llun: Llywodraeth Cymru)
Byth y gwaith o adeiladu ysbyty newydd gwerth £350 miliwn yng Nghwmbrân yn dechrau ddydd Llun.

Bydd gan Ysbyty Prifysgol y Faenor 470 o welyau, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn disgwyl i’r ysbyty agor i gleifion yng ngwanwyn 2021.

Ar ôl cael ei adeiladu mi fydd yr ysbyty yn trin cleifion sydd angen gofal brys a difrifol yn ardal Gwent, a bydd yn darparu nifer o wasanaethau gan gynnwys asesiadau arbenigol 24 awr.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau’r cyllid ar gyfer yr ysbyty ym mis Hydref y llynedd. Mae’r ysbyty yn rhan o strategaeth ehangach er mwyn moderneiddio gwasanaethau iechyd Gwent.

“Cyfleuster hollol fodern”

“Mae Ysbyty Prifysgol y Faenor yn rhan bwysig o’n Strategaeth Dyfodol Clinigol,” meddai Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Judith Paget.  “Ac mae pawb sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Iechyd yn teimlo’n hynod gyffrous bod y gwaith bellach wedi dechrau ar y cyfleuster hollol fodern hwn.”

“Bydd yn ein helpu i greu amgylchedd gofal gwell o lawer yn ogystal â mynediad prydlon at ofal brys, gan sicrhau bod cleifion yn cael y canlyniadau gorau o’u gofal.”