Llys y Goron yr Wyddgrug, Llun: Wikipedia
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos cyn-filwr sydd wedi’i gyhuddo o dreisio a llofruddio merch ysgol mwy na 40 mlynedd yn ôl.
Honnir bod Stephen Hough wedi tagu Janet Commins, 15, i farwolaeth wrth iddo ymosod arni’n rhywiol yn y Fflint ym mis Ionawr 1976.
Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, cafodd Stephen Hough, 58 oed ei arestio ar ôl cydweddiad prawf DNA, o samplau a gafodd eu cymryd o safle’r drosedd.
Ar y pryd fe wnaeth Noel James, 18 oed, bledio’n euog i ddynladdiad a’i garcharu am 12 mlynedd ar ôl dweud iddo gael ei “orfodi” i wneud cyffesiad ffals gan yr heddlu.
Roedd cyn-wraig Stephen Hough, Delyth Sands, wedi dweud wrth y rheithgor bod y diffynnydd wedi cyfaddef lladd rhywun yng ngogledd Cymru pan oedden nhw’n briod ac yn byw yn yr Almaen yn y 1980au tra roedd yn gwasanaethu gyda’r fyddin.
Mae Stephen Hough yn gwadu llofruddiaeth, trais a bwbechni rhwng Ionawr 5 a 12 1976.
Fe fydd y rheithgor yn dychwelyd i’r llys yfory i barhau i ystyried eu dyfarniad.