Lyn Ebenezer
Does dim digon o bwyslais ar hanes a thraddodiadau Cymru wrth ddysgu’r Gymraeg, yn ôl awdur o Geredigion.
“Un peth sy’n fy mhoeni am ddysgu iaith, boed i blant neu oedolion, yw bod yr iaith yn dueddol o gael ei dysgu mewn vacuum,” meddai Lyn Ebenezer wrth golwg360.
“[Mae’n] rhywbeth arwynebol, dim ond iaith yw hi – dyw enaid cenedl ddim yn rhan o’r cyfan. Dyw iaith ddim yn bodoli mewn gwacter – mae iddi hanes.”
Am hynny, ar drothwy cyhoeddi’r strategaeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae Lyn Ebenezer am weld mwy o sylw i hanes, chwedlau a thraddodiadau ar gyrsiau Cymraeg i oedolion ac mewn ysgolion.
“Nid rhyw eisin ar y gacen yw’r iaith, ond y gacen gyfan,” meddai wedyn.
‘Breuddwyd gwrach’
Ychwanegodd ei fod yn croesawu targed Llywodraeth Cymru ond yn “amau’n fawr a chaiff ei gyrraedd, ac efallai mai breuddwyd gwrach yw hi,” meddai.
Dywedodd fod angen hybu’r Gymraeg mewn ysgolion oherwydd – “mae’n hen stori bod plant yn cael dysgu Cymraeg yn yr ysgol a’u bod nhw’n chwarae yn Saesneg ar yr iard.”