Does unman yn debyg i adref – ac mae hynny’n sicr yn wir o ran traethau Cymru, yn ôl arolwg diweddar.

Yn ôl y cyhoeddiad ar-lein Suitcase Magazine mae traeth Bae Rhosili ar Benrhyn Gŵyr ymysg deg traeth gorau’r byd.

Yn ymuno â Bae Rhosili ar y rhestr mae traethau yn Fflorida, Gwlad y Thai, y Pilipinas, Panama, Brasil, Hawaii, Polynesia Ffrengig ac Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf.

Bae Rhosili yw’r unig draeth Ewropeaidd i gyrraedd y deg safle uchaf, a chafodd y traeth ei henwi yn un o bum man picnic gorau’r Deyrnas Unedig gan bapur y Telegraph.

 “Traeth o’r radd flaenaf”

“Nid yw cydnabyddiaeth fel hon yn newydd i Fae Rhosili, ond yr hyn mae’n ei wneud yw cadarnhau pa mor ffodus ydym ni i gael traeth o’r radd flaenaf ar garreg ein drws yma yn Abertawe,” meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, Robert Francis-Davies.

“Mae golygfeydd arfordirol a syfrdanol Abertawe’n rhan allweddol o’n diwylliant, a byddwn yn ceisio dathlu a rhannu’r rhain ymhellach os ydym yn llwyddiannus yn ein cais i fod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2021.”

Y traethau gorau

Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr

Ynys Tikehau ym Mholynesia Ffrengig

Traeth De Miami, Fflorida

Koh Krandan, Gwlad Thai

Pamalican, y Philipinas

Bocas del Toro, Panamá

Baia do Sancho, Brasil

Traeth Radhanagar, India

Traeth Honokalani yn Hawaii

Traeth Loblolly yn Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf