Pobol sydd yn byw o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys sydd fwyaf tebygol o riportio achosion o dwyll trwsio cyfrifiaduron, yn ôl gwefan hawliau defnyddwyr.

Yn ôl Which?, fe dderbyniodd y llu 994 adroddiad o’r math yma o dwyll rhwng 2014 a 2016.

Mae hyn yn golygu fod 19.27 adroddiad wedi’i dderbyn am bob 10,000 o bobol sy’n byw yn yr ardal – bron i ddwbwl y cyfartaledd dros Gymru a Lloegr, sy’n ddim ond 10.42 adroddiad.

Sut mae’r twyll yn digwydd?

Gall y twyllwr ffonio ei ’darged’ gan esgus bod rhywbeth o’i le ar ei gyfrifiadur, a mynnu tâl am ei drwsio. Yn aml iawn, does yna ddim byd yn bod ar y dechnoleg.

Yn ôl gwefan Which? mae’r adroddiadau am y math yma o dwyll yn uwch mewn ardaloedd â phoblogaeth hŷn ac mae’r twyllwyr yn tueddu targedu menywod oedrannus 70-79 blwydd oed.

Gwasanaethau ffug

Ardal Heddlu Dyfed-Powys yw hefyd y gwaethaf am dwyll ffioedd am wasanaethau ffug lle mae twyllwyr yn galw ac yn cynnig swyddi dan yr amod bod arian yn cael ei ddanfon ar gyfer sbio i mewn i gefndir yr ymgeisydd (mater o ddiogelwch, meddai’r galwr).

Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys 695 adroddiad o’r math yma o dwyll rhwng 2014 a 2016, sy’n golygu 13.47 adroddiad am bob 10,000 o drigolion – tra bod cyfartaledd Cymru a Lloegr yn 9.99.