Andy Beynon (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Bontfaen, Bro Morgannwg  prynhawn ddydd Sul wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Andy Beynon, 52, o Lanelli yn y fan a’r lle pan wnaeth ei feic modur wrthdaro â cherbyd Land Rover Freelander ar ffordd y B4268 rhwng Pentre Meurig a Llyswyrny am 1.55yh.

Yn ôl ei wraig, Dawn Beynon, roedd gan ei gwr “galon aur” a “dawn arbennig” i wneud i bobol eraill wenu.

“Penteulu cariadus”

“Roedd Andy yn ŵr, tad, tad-cu, brawd – penteulu – cariadus, gyda nifer o ffrindiau,” meddai Dawn Beynon. “Roedd yn treulio ei amser yn helpu eraill gan gynnwys plant ag anghenion arbennig.”

“Mae’r newyddion yma wedi torri calonnau pawb yn y teulu ac ni fydd ein bywydau’r un peth fyth eto. Er hynny mae’n gysur gwybod bod gennym atgofion hapus ohono, fydd gyda ni am byth.”

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad a dylai unrhyw un sydd heb rannu gwybodaeth gyda’r heddlu eu ffonio ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1700243818.