Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddynes oedrannus yn ei thŷ yn Nolfor, ger y Drenewydd.
Cafodd y ddynes 88 oed ei darganfod gan gymydog ar ddydd Llun, Mehefin 19. Roedd ganddi anafiadau i’w hwyneb a’i braich.
Mae’r ddynes yn parhau i fod mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed Powys trwy alw 101 neu mae modd cysylltu’n anhysbys trwy gysylltu â Thaclo’r Taclau.