Mae Arweinydd Cyngor Conwy, Gareth Jones, wedi gadael grŵp Plaid Cymru.
Bydd yn parhau yn arweinydd annibynnol ac yn ceisio cynnal gweinyddiaeth leiafrifol fydd yn cynnwys cynghorwyr Ceidwadol ac annibynnol.
Daw’r cyhoeddiad yn sgil ffrae ag arweinwyr Plaid Cymru, wedi i’r blaid wrthod rhoi’r hawl iddo ffurfio cabinet fyddai wedi cynnwys aelodau o’r Blaid Geidwadol a’r grŵp annibynnol.
Ymddiswyddodd dau gynghorydd Plaid Cymru oedd yn y cabinet gwreiddiol, sef Trystan Lewis a Garffild Lloyd Lewis, o ganlyniad i’r ffrae.
Fe fu Gareth Jones yn cyfarfod ag Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ddydd Llun, ac mi gyflwynodd ei achos ym mhwyllgor lleol Plaid Cymru nos Fawrth.
Mewn cyfweliad â golwg360 ddydd Mawrth dywedodd Gareth Jones: “Os ydw i eisiau dal ati, a dw i’n bwriadu dal ati fel arweinydd… dw i ddim yn gweld y medra’ i wneud hynny yn enw Plaid Cymru.”