Mae dynes o ardal Bangor wedi’i harestio yn dilyn cyrch gan Heddlu Gogledd Cymru ar stad Maergeirchen fore Iau *(Mehefin 15).

Mae’r ddynes wedi’i harestio dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A.

“Roedd swyddogion yn gweithredu ar warant yn Llys Branwen, Maesgeirchen heddiw, ac maen nhw wedi dod o hyd i gyffuriau dosbarth A, arian parod, ynghyd â chyffuriau eraill ac offer yn ymwneud â chyffuriau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae dynes lleol yn ei 20au wedi’i harestio, ac mae’n cael ei holi ar hyn o bryd mewn gorsaf heddlu leol.”