Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg wedi ymosod ar Lywodraeth Cymru wedi iddi ddod yn amlwg ei bod bellach wedi gollwng targed PISA.

Yn 2014, gollyngodd Llywodraeth Cymru y targed i Gymru fod yn 20 cenedl uchaf rhestr PISA, gan roi yn ei le darged llai uchelgeisiol o gyrraedd sgôr o 500 ym mhob un o barthau PISA erbyn 2021. Bryd hynny, beirniadodd Kirsty Williams y llywodraeth am “dlodi llwyr o ran uchelgais”.

Ond fe ddaeth cadarnhad i aelod Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, mewn cyfarfod o Bwyllgor Addysg y Cynulliad ddydd Mercher yr wythnos hon, fod yr ail darged bellach wedi ei ollwng hefyd – a hynny pan mai Kirsty Williams yw’r Gweinidog Addysg.

“Wedi methu’n wreiddiol â chyrraedd eu targed o gael Cymru yn yr 20 uchaf o genhedloedd PISA yn 2013, cyflwynodd Llywodraeth Cymru darged newydd, llai uchelgeisiol o gyrraedd sgôr o 500 ym mhob un o barthau PISA erbyn 2021,” meddai Llyr Gruffydd.

“Er iddi gystwyo’r gweinidog ar y pryd am ostwng y targed, mae’r Ysgrifennydd Cabinet ei hun yn awr wedi dewis ei ollwng. Pa mor isel all ein huchelgais suddo?

“Yn lle ateb yr her, gostwng disgwyliadau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet. Does dim rheswm pam na all plant yng Nghymru wneud cystal â phlant yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol.

“Mae Plaid Cymru eisiau codi cyrhaeddiad addysgol a gwella safonau dysgu trwy wobrwyo athrawon am ddatblygu arbenigedd, a thrwy ganolbwyntio ar ymyriad cynnar pan fydd plant yn dechrau llithro’n ôl.”

Gwelodd canlyniadau mwyaf diweddar PISA Gymru yn sgorio’n isaf o holl genhedloedd Prydain yn nhri pharth PISA o Fathemateg, Darllen a Gwyddoniaeth.