Caerdydd adeg UEFA
Bron i bythefnos ers i Gymru gynnal un o ddigwyddiadau amlyca’r byd pêl-droed, mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi torri eu record am y nifer mwyaf o bobol yn ymweld â’r brifddinas.
Heidiodd 314,264 o bobol i Gaerdydd ar ddydd Sadwrn 3 Mehefin 2017 ar gyfer ffeinal y dynion yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA gyda Real Madrid yn curo Juventus o 4 – 1.
Cyn hynny, 270,421 oedd record Caerdydd am y nifer mwyaf o bobol mewn un diwrnod – a hynny ar 17 Mawrth 2012 pan enillodd Cymru bencampwriaeth y Chwe Gwlad am y trydydd tro o fewn wyth mlynedd.
Trefniadau diogelwch
Mae’r cynghorydd Russell Goodway o Gyngor Caerdydd wedi cydnabod y bu “rhywfaint o darfu” o ganlyniad i drefniadau diogelwch.
“Ond gyda’r newyddion trist iawn rydym wedi’i weld ym Manceinion a Llundain, rwy’n credu bod y cyhoedd yn sylweddoli bod diogelwch a chadw pobol yn ddiogel yn eithriadol bwysig,” meddai.
“Mae’r nifer uchaf o ymwelwyr wedi’i gofnodi erioed yng Nghaerdydd yn adeiladu ar frand Caerdydd, fel dinas sy’n gallu cynnal y digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y byd, yn ogystal â llawer mwy,” ychwanegodd.