Gareth Edwards, Llun: S4C
Siom ar ôl siom oedd y sbardun ar gyfer buddugoliaeth hanesyddol y Llewod dros Seland Newydd yn 1971 – eu hunig fuddugoliaeth yno hyd heddiw.
Dyna farn un o’r chwaraewyr mwyaf allweddol yn y garfan honno. Wrth i’r garfan bresennol o Lewod baratoi i geisio ailadrodd y llwyddiant hwnnw 45 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Gareth Edwards yn un o nifer o gyn-chwaraewyr sy’n rhannu eu hatgofion ar raglen y cwmni cynhyrchu Gwyddelig Square One, Llewod ’71 i S4C nos Wener.
Chwilfrydedd y cynhyrchydd o Wyddel, Shane Tobin arweiniodd at greu’r rhaglen hon, wrth iddo fynd ati i ddarganfod a oedd y Llewod erioed wedi curo Seland Newydd mewn cyfres. Cafodd y rhaglen ei chynllunio dros beint gydag un o gyfarwyddwyr mwyaf blaenllaw Iwerddon, y Cymro Andrew Gallimore sydd wedi ennill gwobrau lu am ei waith yn y gorffennol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys deunydd fideo a chyfweliadau sydd heb eu gweld erioed o’r blaen. Daw’r cyfan ynghyd wrth i’r actor Matthew Rhys adrodd yr hanes, gyda sylwadau gan awduron a haneswyr chwaraeon blaenllaw.
‘Gwybod yn iawn beth i’w erfyn’
Roedd Gareth Edwards, sy’n cael ei gyfri’n un o gewri’r gamp, eisoes wedi colli sawl gwaith yn erbyn Seland Newydd – gyda’r Barbariaid yn 1967 a Chymru yn 1969. Doedd y Llewod erioed wedi curo’r Crysau Duon mewn cyfres. Ond byddai buddugoliaeth i’r Llewod o 2-1 yn y gyfres yn newid y byd rygbi yng Nghymru a Seland Newydd am byth gyda dyfodiad dull 15 dyn o chwarae’r gêm, a fyddai’n ei gwneud yn haws curo’r Crysau Duon.
Dywedodd Gareth Edwards ar drothwy’r rhaglen: “Gaethon ni ddigon o wersi o chwarae yn eu herbyn nhw mor anodd oedd hi i ennill. O’ch chi wastad yn gallu dod yn agos a haeddu ennill ond o’n nhw wastad yn gallu ffeindio ffordd o ennill.
“Erbyn ’71, o’n ni’n gwybod yn iawn beth i’w erfyn. Ac roedd digon o brofiad yn y tîm gyda chwaraewyr oedd wedi chwarae yn erbyn y Crysau Duon dros y blynydde diwetha’, yn gwybod beth oedd rhaid gwneud i drial newid y ffordd o’n ni’n chwarae yn eu herbyn nhw i ni gael dod mas ar y brig.”
Carwyn James
Yn union fel y mae hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones wedi beirniadu’r hyfforddwr Warren Gatland y tro hwn am ddewis gormod o chwaraewyr o Gymru yn y garfan, fe wynebodd yr hyfforddwr Carwyn James yr un cyhuddiad yn 1971. Ond “rybish”, yn ôl Gareth Edwards, oedd yr awgrym y byddai’r Cymro Cymraeg o Gefneithin yn dangos unrhyw ffafriaeth i’w gydwladwyr ar draul y chwaraewyr o Loegr, yr Alban ac Iwerddon.
“Roedd e wedi bod yn siarad am Blaid Cymru a phethau fel’na cyn ’ny so o’n nhw [y wasg] yn edrych am bethau negyddol oherwydd y ffaith fod siwd gymaint o chwaraewyr o Gymru yna. Ond, wrth gwrs, o’n ni wedi ennill y Gamp Lawn yn ’71 so efallai y byddech chi’n erfyn llawer o chwaraewyr Cymru i fod yn y tîm.”
Yn wir, un o gryfderau Carwyn James fel hyfforddwr ar y daith honno, yn ôl nifer o chwaraewyr, oedd ei allu i dynnu’r chwaraewyr o’r pedair gwlad ynghyd o dan ymbarél y Llewod, tra hefyd yn cadw eu hunaniaeth genedlaethol nhw eu hunain fel Cymry, Saeson, Albanwyr neu Wyddelod.
Ychwanega Gareth Edwards: “O’dd pob un yn dweud bydde fe’n ffafrio’r Cymry. Dim o gwbl. O’dd e’n moyn i’r chwaraewyr gorau chwarae. O’dd e’n dweud wrth y bechgyn yn gynnar yn y daith, “Clywch nawr, mae digon wedi cael ei ddweud am faint o chwaraewyr o Gymru sy’ ’ma, faint ohonon ni sy’n siarad Cymraeg, fod pob un yn mynd i fod yn siarad Cymraeg tu ôl i’ch cefn chi. Y peth mwya’ naturiol i ni, os y’n ni’n cwrdd yn y bore, fyddai dweud “Bore da” wrth ein gilydd amser brecwast.” Dwi ddim yn mynd i ddweud unrhyw beth arall ond fod e’n naturiol a fi ddim yn ymddiheuro am ’ny.”
Roedd y garfan yn barod iawn i dderbyn yr eglurhad, meddai Gareth Edwards, gan ychwanegu mai’r ymdeimlad hwnnw o Gymreictod oedd wedi atgyfnerthu ysbryd y garfan yn y pen draw.
“Erbyn diwedd y daith, o’n nhw [y chwaraewyr o Loegr, yr Alban ac Iwerddon] yn canu ‘Sosban Fach’ cystal ag unrhyw un. Bydden ni’n canu sawl cân o sawl gwlad, wrth gwrs, ond byddai lot o ganeuon Cymraeg. Ond bydden nhw’n prynu mewn iddo fe.”
Gareth Edwards a Barry John
Fe gâi geiriau Cymraeg eu defnyddio ar y cae, yn enwedig yn y bartneriaeth dyngedfennol rhwng yr haneri, Gareth Edwards a Barry John. Roedd mynd i gapel Cymraeg yn Seland Newydd yn rhan o ddigwyddiadau hamdden y Llewod fel y byddai’n dod yn rhan naturiol o’r daith.
“O’dd Carwyn mor onest gyda phob un, o’dd dim eisiau gofyn cwestiynau ambwyti’r iaith. Ta beth ’ny, mor gynted y’ch chi’n gadael y pedair gwlad a dod at ei gilydd, nid o Gymru, Lloegr, yr Alban neu Iwerddon y’ch chi. Llewod y’ch chi. Mae llawer o bobol yn trial dweud ‘gormod o Gymry, gormod o Saeson’, ond Llewod y’n nhw i gyd nawr. Y chwaraewyr gorau sy’n mynd i mewn i’r tîm.”
A all Llewod 2017 efelychu eu rhagflaenwyr yw’r cwestiwn mawr ar wefusau’r byd rygbi. Credu ynddyn nhw eu hunain yw’r gyfrinach, yn ôl Gareth Edwards.
“Mae rhaid iddyn nhw gredu bo nhw’n ddigon cryf a bod y gallu gyda nhw. Mae’r tîm yn gryf, mae unigolion cryf gyda nhw, ac maen nhw’n gwneud digon o baratoi. Yr unig beth dwi ddim yn rhy siŵr amdano yw oes digon o amser gyda nhw i chwarae fel tîm achos dyna le fydd cryfder y Crysau Duon.”
Llewod ’71, nos Wener 16 Mehefin, 9.30pm
Is-deitlau Saesneg