Fe fu “ymateb digynsail” i’r alwad ar i’r Orsedd gofrestru i sicrhau eu lle ar lwyfan y Brifwyl ar gyfer prif seremonïau Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.
Dyna neges yr Arwyddfardd Dyfrig ab Ifor wrth iddo gyhoeddi bod yr holl lefydd ar y llwyfan ar gyfer seremoni’r Cadeirio wedi’u llenwi.
Dywedodd mewn datganiad: “Seremoni’r Cadeirio sydd fwyaf poblogaidd bob tro, ond mae nifer yr aelodau sydd wedi datgan eu hawydd i fod yn rhan o’r Orsedd eleni yn arbennig iawn.
“Rydw i wedi bod yn ymwneud gyda’r Orsedd ers blynyddoedd, a ‘dydw i erioed yn cofio’r fath ddiddordeb a chyffro mor gynnar yn y flwyddyn.
“Mae’r ffaith ein bod ni wedi llenwi un o’r seremonïau bythefnos cyn y Cyhoeddi hyd yn oed yn rhyfeddol.”
Ychwanegodd fod “rhywbeth am Eisteddfod Ynys Môn wedi cydio o’r cychwyn”, gyda nifer uchel o geisiadau am lefydd ar y maes carafanau ac am docynnau i ddigwyddiadau’r pafiliwn.
Canmlwyddiant y Gadair Ddu
Fe fydd seremoni’r Cadeirio’n arbennig eleni, wrth ddathlu canmlwyddiant y Gadair Ddu ym Mhenbedw yn dilyn marwolaeth Hedd Wyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ychwanegodd Dyfrig ab Ifor: “Mae’n sicr bod nifer fawr o’n haelodau’n teimlo rhyw fath o gysylltiad gyda hyn ac am fod yn rhan o’r seremoni ganrif yn ddiweddarach.
“Wrth gwrs, gyda seremoni’r Cadeirio’n llawn, bydd nifer am gofrestru i gymryd rhan yn y seremonïau eraill – ac mae’r rhain yn prysur lenwi hefyd, felly, mae’r neges yn syml, aelodau’r Orsedd – ewch ati i gofrestru yn syth er mwyn sicrhau lle yn ystod yr wythnos.
“Ac yna, gallwn i gyd edrych ymlaen at yr Eisteddfod, gan obeithio y gwelwn deilyngdod yn y prif seremonïau, a bydd modd i’r Orsedd gyd-ddathlu llwyddiant gyda phawb o lwyfan llawn y Pafiliwn!”
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn cael ei chynnal ym Modedern o 4-12 Awst.