Catrin Beard
Mae un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2017 yn “hynod o falch” fod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal eleni, a hynny wedi adolygiad i ystyried dyfodol y wobr.
Ym mis Mai, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru ganlyniadau adolygiad gan gwmni PR yn nodi fod y gystadleuaeth yn un o “elfennau pwysicaf y byd llenyddol”.
Er hyn, roedd un o’r argymhellion yn cynnwys y posibilrwydd o orfodi awduron a gweisg i dalu am gael cystadlu.
“Dw i’n deall eu bod nhw wedi gorfod cael adolygiad ac yn hynod falch ei fod wedi dod yn ôl yn gadarn o blaid cynnal y gystadleuaeth,” meddai Catrin Beard.
‘I bob math o gyfeiriadau’
Esboniodd y ddarlledwraig ei bod wedi beirniadu’r gystadleuaeth yn 2006, ac eleni fe fydd hi’n cyd-gloriannu’r cyfrolau Cymraeg gydag Eirian James, perchennog siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon a’r bardd Mari George.
“Ry’n ni wedi trefnu i gyfarfod yn yr Eisteddfod [Genedlaethol],” meddai Catrin Beard gan esbonio y byddan nhw’n trafod cyfrolau dros y We hefyd.
“Roeddwn i wedi darllen eithaf tipyn [o’r llyfrau] llynedd beth bynnag… ond mi fydd y tri mis nesaf yn gyfnod lle y bydda i’n mynd i bob math o gyfeiriadau, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr.”
Beirniaid y gystadleuaeth Saesneg yw’r awdur Tyler Keevil, yr ysgolhaig Dimitra Fimi a’r bardd Jonathan Edwards.
Croesawu arbrofi
Nid yw Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu manylion pellach am y gystadleuaeth, ond dywedodd llefarydd y byddan nhw’n cyhoeddi dyddiadau’r rhestr fer a’r seremoni yn “yr wythnosau nesaf”.
Ychwanegodd y llefarydd y bydd gwobrau 2017 yn “parhau fel arfer”, ond mae’n bosib y bydd gwobrau’r dyfodol yn newid o ganlyniad i’r ymgynghoriad.
Ac mae Catrin Beard wedi croesawu’r adolygiad.
“Does yna ddim un gystadleuaeth fel hyn yn berffaith,” meddai, “gan mai dim ond un wobr sydd yna yng Nghymru, mae pob math o lyfrau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd… mae fel cymharu afalau ac orenau,” meddai.
“Dw i’n croesawu felly fod Llenyddiaeth Cymru yn barod i arbrofi a thrio dod o hyd i’r fformiwla iawn.”