Elfed Roberts
Fe fydd yna “ymdeimlad o Faes” pan fydd y Brifwyl yn ymweld â Chaerdydd yn 2018, yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dair wythnos cyn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ar Fehefin 24 eleni, mae Elfed Roberts yn dweud fod y brifwyl yn 2018 yn mynd i fod yn “wahanol i’r arfer” wrth iddi arbrofi trwy gynnal gweithgareddau mewn lleoliadau ledled y ddinas.
Bydd yr Eisteddfod hon, yn ôl Elfed Roberts, yn gyfle i “agor yr Eisteddfod allan” a gweld bod yna ffyrdd gwahanol o wneud pethau mewn rhai ardaloedd.
Y traddodiadol yn aros
Ond er yr arbrofi, mae’r Prif Weithredwr yn sicr y bydd yna rai elfennau traddodiadol yn parhau.
“Er bod yr Eisteddfod am fod yn wahanol, fe fydd yna ddigon o elfennau tebyg i’r arfer yno hefyd,” meddai Elfed Roberts.
“Fe fydd yna ymdeimlad o Faes, ac fe fydd yna lwybrau pendant ar gyfer ein hymwelwyr er mwyn iddyn nhw grwydro o le i le gan deimlo’n bendant eu bod nhw’n rhan o’r Eisteddfod.”
Bydd seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn cael ei chynnal ar Fehefin 24 ar lawnt Neuadd y Ddinas – gan gychwyn am dri o’r gloch y prynhawn.