Gwrthod cael ei dynnu i ymateb i bol piniwn cyntaf y noson y mae Carwyn Jones, arweinydd Llafur Cymru.
Mae hwnnw’n darogan na fydd Theresa May yn gallu ffurfio llywodraeth yn San Steffan, gan ei bod wedi syrthio’n brin o’r nifer o seddi y mae’n rhaid iddi eu cipio er mwyn cael mwyafrif clir.
Yng Nghymru, mae Carwyn Jones yn gyndyn o drafod y posibiliadau o senedd grog ac effaith hynny ar y wlad. “Heb wybod y ffigurau,” meddai, “mae’n amhosib gwybod beth fydd y sefyllfa.”
Yn y cyfrif yng Nghaerdydd, dywedodd Carwyn Jones wrth golwg360 fod Llafur wedi rhedeg ymgyrch da ond ei bod yn rhy gynnar i alw’r noson yn llwyddiant ai peidio.
“Mae’n rhaid i ni weld beth yw’r canlyniadau, mae’r polau wedi bod lan a lawr fel io-io. Dyw’r pôl hyn ddim yr hyn be welon ni ddoe. Mae’n rhaid i ni aros i weld,” meddai.
“Fi wedi bod mewn gwleidyddiaeth ers amser hir nawr a dw i’n gwybod bod rhaid gweld beth yw’r canlyniadau, mae’n lot rhy gynnar i ddweud.
Cydweithio â phleidiau eraill?
Roedd y pôl olaf cyn y canlyniadau yn awgrymu y gall fod senedd grog gyda’r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif ond dim digon i ffurfio Llywodraeth.
Er hynny, doedd Carwyn Jones ddim am ddweud y byddai Llafur yn ffurfio clymblaid gyda’r pleidiau eraill – fel Plaid Cymru, yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion – pe bai hynny’n digwydd.
“Mae’n llawer rhy gynnar to, mae’n rhaid i ni weld beth yw’r canlyniad ar ddiwedd y dydd, dyna’r cam nesa’, gewn ni weld beth yw’r ffigurau terfynol.
“Heb wybod y niferoedd does neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd eto.”
Mwy o bobol ifanc yn pleidleisio
Un peth neilltuol am yr etholiad hwn, meddai Carwyn Jones, oedd nifer y bobol ifanc welodd yn mynd at y blychau pleidleisio, pe bai hynny’n wir ledled y Deyrnas Unedig, gallai fod yn noson dda i Lafur.
“Daeth lot o bobol ifanc mas heddi ym Mhen-y-bont, weles i hwnna, mwy nag sy’n arferol. Falle’ bod hwnna wedi cael effaith, fe gewn ni weld.”
Fe wnaeth ganmol Jeremy Corbyn hefyd, gan ddweud ei fod wedi rhedeg ymgyrch ‘bywiog’ – y ganmoliaeth fwya’ mae’r Corbyn wedi cael gan Carwyn Jones.
“Mae lot o egni ‘da fe, mae e wedi bod yn cwrdd â phobol ac wrth gwrs, roedd ein maniffesto ni yn dda ac wedi cael lot o gefnogaeth ond gewn ni weld pa mor bell aeth yr ymgyrch.”