Canolfan newydd yr Urdd yn Hwngari
Mae’r Urdd wedi agor canolfan newydd yn Hwngari ar ôl derbyn tŷ yno yn rhodd gan ddyn o Loegr.

Anrheg i’r mudiad gan Michael Makin yw’r tŷ pedair ystafell wely, sydd wedi ei leoli mewn pentref ar y ffin â Slovakia.

Does gan Michael Makin ddim cyswllt penodol â Chymru, ond fe dreuliodd amser yn ardal Llangollen pan oedd yn iau, gan ddod ar draws y diwylliant a’r iaith Gymraeg.

Fe roddodd y tŷ i’r Urdd ar yr amod ei fod yn cael ei ddefnyddio fel adnodd i bobol ifanc gael profiad yn y wlad.

Bu criw o Wasanaeth Agored yr Urdd yn adnewyddu’r tŷ yn ddiweddar ac mae bellach yn barod i’w agor. Mae disgwyl i’r criw cyntaf o Gymry fynd draw yno yn ystod gwanwyn blwyddyn nesa’. Mae lle i tua 20 o bobol gysgu yn y tŷ.

Tebyg i ganolfan Pentref Ifan

Mae’r ganolfan wedi’i lleol mewn pentref yng ngogledd orllewin Hwngari, ar yr afon Donwy ac ar y ffin gyda Slovakia.

Mae prif ddinasoedd Vienna a Bratislava o fewn awr a hanner i’r tŷ, a Budapest tua dwy awr i ffwrdd.

Dywedodd Rhys Pinner, swyddog Gwasanaeth Agored yr Urdd, wrth golwg360 y bydd y ganolfan yn debycach i ganolfan yr Urdd ym Mhentref Ifan, yn hytrach na chanolfannau Llangrannog, Glan-Llyn a Bae Caerdydd.

“Yn y tŷ does neb i goginio i chi, felly mae hwnna’n rhan o’r sbort. Pan ry’ch chi’n ymweld â’r ardal, rydych chi gyd yn gorfod coginio gyda’ch gilydd, glanhau gyda’ch gilydd ac mae’r bobol ifanc yn gorfod byw gyda’i gilydd.

“[Mae’n] lleoliad gwych i fynd i weld lot o brif ddinasoedd Ewrop… mae hefyd i gyfle i fynd allan a rafftio dŵr gwyn, canŵio ar yr Afon Donwy, un o brif afonydd Ewrop, mae e i gyd reit yng nghanol pob dim!”