Martyn Geraint yn Eisteddfod yr Urdd heddiw
Mae plant Cymru dan ormod o bwysau yn yr ysgol, yn ôl Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r cyflwynydd plant adnabyddus Martyn Geraint wedi dweud wrth golwg360 bod plant yn wynebu gormod o arholiadau a bod athrawon yn anhapus.

A mynegodd bryder hefyd y gallai rhai plant fod yn colli cyfleoedd, fel cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Urdd, o achos eu bod nhw dan bwysau yn yr ysgol.

“Fel un sy’n ymwneud ag addysg, yn ymweld â nifer fawr o ysgolion ledled Cymru, dw i jyst yn clywed athrawon anhapus, athrawon sydd dan straen a dw i’n meddwl bod hynny’n effeithio ar bethau fel yr Urdd,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n gwybod o brofiad cymaint o fwynhad a’r profiadau a’r cyfleoedd ges i gyda’r Urdd, pa mor bwysig yw’r mudiad a dw i ddim eisiau colli hwnna.

“Dw i’n gweld yr holl brofion a’r casglu data yma [mewn ysgolion], dyw e ddim er lles y plant, dim ond i’r gwleidyddion yw e.

Profiadau, nid profion

Dywedodd Martyn geraint fod gobaith o newid pethau a hynny drwy’r Adroddiad Donaldson sy’n awgrymu creu cwricwlwm newydd ar gyfer y gyfundrefn addysg yng Nghymru.

“Dim ond bod y gwleidyddion ddim yn amharu gormod ar ysgolion yn hynny o beth, dw i’n ddyn gobeithiol, felly mae yna obaith eto.”

Dywedodd mai cwricwlwm mwy “creadigol” sy’n cynnig “profiadau ac nid profion” y byddai’n hoffi gweld yn y dyfodol.