Simon Pirotte, Coleg Pen-y-bont (Llun: golwg360)
Mae pennaeth y coleg addysg bellach sydd dafliad carreg o faes Eisteddfod yr Urdd ym Mhencoed eleni wedi’i ysbrydoli i ddysgu Cymraeg er mwyn “gwneud y mwya’ o’r ŵyl.”

Yn wreiddiol o Abertawe, esboniodd Simon Pirotte ei fod wastad wedi ymddiddori yn yr iaith ond nad yw wedi bwrw ati i ddysgu’r Gymraeg erioed.

“Dw i wedi bod yn fflyrtio â’r syniad o ddysgu Cymraeg ers blynyddoedd ond heb setlo lawr i’w dysgu yn iawn,” meddai wrth golwg360.

Dywedodd fod yr Eisteddfod wedi ysbrydoli nifer o’r myfyrwyr i ddysgu’r iaith a chystadlu mewn amryw gystadlaethau.

“Mae Eisteddfod yn dod i’r ardal wedi bod yn gatalydd mawr ac mae wedi bod yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ddysgu sgiliau newydd,” meddai.

“Ni eisiau cadw’r momentwm yma i fynd nawr a pharhau i ddathlu’r iaith a’r diwylliant Gymraeg.”

Mae tua 6,000 o fyfyrwyr yn dilyn cyrsiau ym mhump o gampysau’r coleg sy’n cynnwys un ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, Heol y Frenhines, Maesteg a Chaerdydd.