Mae llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penderfynu codi arian at Ambiwlans Awyr Cymru eleni drwy seiclo 300 milltir ar feic segur ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Hyd yn hyn mae’r criw o 21 o lysgenhadon wedi llwyddo i feicio 200 milltir drwy gyfraniadau gan y cyhoedd, ac maen nhw’n gobeithio cwblhau eu targed erbyn y penwythnos.

“Wnaethon ni holi’r holl lysgenhadon pa elusen oedden nhw eisiau codi arian ato, ac fe ddaeth Ambiwlans Awyr Cymru i’r brig,” meddai Lowri Bulman, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu wrth golwg360.

Esboniodd fod pob taith hofrennydd yr Ambiwlans Awyr yn costio £1,500, ac mae’r llysgenhadon wedi dewis teithio’n rhithiol i bob prifysgol yng Nghymru.

“Mae’n 300 milltir i gyd, ac mae’n dangos cydweithio rhwng y prifysgolion,” meddai Lowri Bulman wedyn.