Ryan Howells (Llun: golwg360)
Ryan Howells, 24 oed, sydd newydd gwblhau gradd mewn Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Meddygaeth a Deintyddiaeth Llundain, sydd wedi cipio’r Fedal Gyfansoddi ym mhrifwyl yr Urdd eleni.

Daw’n wreiddiol o Camros yn Sir Benfro ac mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd.

“Mae llawer iawn wedi cyrraedd safon uchel iawn,” meddai’r beirniad Einion Dafydd, wrth ganmol y gystadleuaeth ac egluro bod y darn buddugol wedi’i ysbrydoli gan hen alawon ac emynau Cymreig.

Dechreuodd Ryan Howells gyfansoddi pan oedd yn 15 oed.  Cyfansoddodd ei ddarn llawn cyntaf ar gyfer band pres yn 19 oed. Ers hynny mae wedi ennill amryw wobrau am gyfansoddi, gan gynnwys gwobr gyfansoddi Tŷ Cerdd yn 2014; darn gafodd ei berfformio yn dilyn hynny gan Fand Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.

Ym mis Medi fe fydd Ryan Howells yn dechrau ar ei swydd gyntaf yn ddeintydd ym Mryste.

Yn ail yn y gystadleuaeth mae Elan Richards, Rhanbarth Gorllewin Myrddin; ac yn drydydd mae Gwydion Rhys, Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen, Rhanbarth Eryri.