Tomos Sparnon
Myfyriwr o Goleg Celf Abertawe sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Gelf Eisteddfod yr Urdd eleni am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18 a 25 oed.
Mae Tomos Sparnon yn ennill ysgoloriaeth gwerth £2,000 a daw hyn wedi iddo ennill y Fedal Gelf dwy flynedd yn ôl yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch yn 2015.
Fe fydd yn defnyddio’r ysgoloriaeth i geisio am le ar gwrs Anatomi Dynol yn Ysgol Gelf Ruskin, Rhydychen.
Eglurodd fod ei ddarnau, yn baentiadau a cherfluniau, wedi’u hysbrydoli gan wynebau a’r corff dynol gan “ddefnyddio’r gorffennol i ddod o hyd i ffigwr cyfoes.”
Beirniad yr ysgoloriaeth oedd yr arlunydd Ruth Jên a dywedodd fod ei waith yn cynnwys “aeddfedrwydd” a bod ganddo “ddatblygiad clir o ran syniadau a chyfrwng i’w weld o’i lyfrau luniadau i’r gwaith terfynol.”
Y Fedal Gelf
Alex Skyrme o Ysgol Gyfun Gwynllyw sy’n ennill y Fedal Gelf eleni am waith 3D ar y thema ‘Gormes Menywod’.
“Rydw i’n cael fy ysbrydoli gan artistiaid fel Shani Rhys James a Picasso, sy’n creu portreadau afrealistig ac yn cyfleu’r stori tu ôl i’r darlun,” meddai’r ferch o Flaenafon fydd yn dechrau ar gwrs yng Ngholeg Central Saint Martins yn Llundain ym mis Medi.