Ffred Ffransis
Tu allan i stondin Llywodraeth Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y llywodraeth i “wneud mwy” a “chynllunio” i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn ôl ymchwil y gymdeithas fe fyddai angen “cynnydd aruthrol” o fewn y blynyddoedd nesaf i fynd i’r afael â’r targed.
Maen nhw’n nodi y dylai 19 o 22 o awdurdodau lleol Cymru sicrhau fod y rhan fwyaf o’u plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cadw at y targed.
‘Rhaid cynllunio’
“Mae’n rhaid cynllunio ac mae angen strategaeth o ddifrif,” meddai Ffred Ffransis ar ran y gymdeithas wrth golwg360.
“I unrhyw faes arall byddai’r llywodraeth yn cynllunio o ddifrif … ond ni ddim yn credu bod y llywodraeth yn cymryd y mater o ddifri,” meddai.
“Os nad ydyn ni’n cynllunio, dydy o ddim yn mynd i ddigwydd.”
Addysg Gymraeg – 2030
Ar hyn o bryd mae’r Aelod Cynulliad Aled Roberts yn cynnal adolygiad o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg pob sir yng Nghymru.
Mae ymchwil Cymdeithas yr Iaith yn nodi y byddai rhaid i’r canran o blant saith mlwydd oed mewn addysg cyfrwng Cymraeg fwy na threblu yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr erbyn 2030.
Yn sir y Fflint, byddai’n rhaid i’r canran gynyddu o 5.7% i 20.4% ac yn Sir Gaerfyrddin byddai’n rhaid iddo gynyddu o 55% i 84.1%, a 60% yng Nghonwy a Sir Ddinbych.