Annie Bielecka Jones
Mae arddangosfa gyntaf artist o Gymru yn ei gwlad ei hun yn cynnwys darnau yn ymateb i effaith rhyfeloedd ar fywydau pobol.
Yn wreiddiol o Griccieth, mae Annie yn dychwelyd o Wivenhoe yn Essex i arddangos ei gwaith am y tro cyntaf ym mro ei mebyd er iddi arddangos yng Ngwlad Pwyl, Gwlad yr Iâ a Lloegr cyn hyn.
Ei phrif ddarlun ydi ‘The Suffering of Women at the Time of War’, ac mae’n hunanbortread sy’n cwmpasu dioddefaint merched ei theulu mewn rhyfeloedd.
Esboniodd iddi golli’i thad yn dair oed, ei mam yn wraig weddw, ei neiniau wedi colli aelodau’r teulu – a’i mam yng nghyfraith wedi’i charcharu am dair blynedd a hanner yng ngwersyll crynhoi Auschwitz.
“Rydyn ni, fel teulu, wedi cael ein heffeithio’n ddwfn gan ryfeloedd,” meddai wrth golwg360.
“Mae fy mam yng nghyfraith yn 97 oed erbyn hyn ac yn dod yn wreiddiol o Wlad Pwyl. Llwyddodd hi i oroesi’r erchyllterau, ond mae’r cyfan wedi effeithio’n fawr ar fy nheulu,” meddai.
‘Ysu’ i arddangos gartref
Mae tua 20 o ddarnau yn rhan o’i harddangosfa ‘Môr a Mynydd’ yn Oriel Croesor ers dydd Sul (Mai 28).
Mae’n defnyddio tecstilau yn ei gwaith a hithau wedi dylunio gwisgoedd ar gyfer theatrau am flynyddoedd.
“Dw i wedi arddangos mewn llawer o lefydd, ond dw i wedi ysu erioed i ddod â’r profiadau hyn yn ôl adref.”