Heddlu arfog yng Nghaffi Mr Urdd (Llun: golwg360)
Mae tua phedwar o heddweision arfog yn crwydro maes Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-coed fore Llun (Mehefin 29).

Esboniodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod wrth golwg360 mai’r Heddlu wnaeth gynghori’r Eisteddfod i gael plismyn yn cario gynnau ar y maes – a’u bod hwythau wedi cydymffurfio â hynny.

“Mae yna bresenoldeb heddlu, archwilio bagiau ac rydyn ni wedi cyflogi mwy o swyddogion diogelwch ein hunain hefyd,” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod.

Dywedodd ei fod yn disgwyl i’r heddlu arfog fynd a dod drwy gydol yr wythnos ar gais cyngor yr heddlu – a hynny yn dilyn yr ymosodiad ym Manceinion yr wythnos diwethaf ac ar drothwy penwythnos Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.

“Mae’r ymateb wedi bod yn bositif hyd yn hyn i’r mesurau diogelwch,” meddai Aled Siôn wedyn.

“Mae pawb yn derbyn yn sgil y digwyddiad ym Manceinion fod angen cryfhau’r diogelwch. Yn amlwg mae angen bod yn amyneddgar, efallai fod ychydig o oedi wrth ddod mewn sy’n creu ciwiau, ond wrth i’r wythnos fyn ymlaen gobeithio y bydd hynny’n fwy effeithiol,” meddai wrth golwg360.