Nia Jeffreys
Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal ym Mhorthmadog heno i gofio dioddefwyr yr ymosodiad ar Arena Manceinion nos Lun.

Y cynghorydd sir newydd dros Ddwyrain Porthmadog, Nia Jeffreys, sy’n trefnu’r digwyddiad, gan ddweud bod y gyflafan wedi “cyffwrdd pawb” yn y dre’, yn enwedig o achos y cysylltiadau agos sydd rhwng y ddau le.

“Mae gennym ni gysylltiadau cryf efo Manceinion, nid yn unig am fod llawer o ymwelwyr yn dod o Fanceinion ar eu gwyliau i Borthmadog a rhai yn symud i fyw yma,” meddai wrth golwg360.

“Rydym innau hefyd yn mynd i Fanceinion lot o Port i weld cyngherddau neu i fynd i siopa ac mae llawer ohonom ni’n mynd yno i’r coleg i nyrsio ac yn y blaen.

“Felly, mae lot o fy ffrindiau i o Port yn byw ym Manceinion a bues i fy hun am dair blynedd yn y brifysgol ym Manceinion.”

Arweinyddion ffydd i siarad

Bydd yr wylnos yn dechrau am 6 o’r gloch heno ger harbwr y dref, lle fydd arweinyddion ffydd lleol – y Parchedig Christopher Prew, y Parchedig Iwan Llywelyn Jones, y Tad Dylan Williams a’r Chwaer Mary yn dweud gair.

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o Ysgol Eifionydd a chynrychiolwyr o’r heddlu, y frigâd dân a’r ambiwlans i fod yno hefyd.