Graham Fraser (Llun: Llywodraeth Canada)
Mae cyn-Gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada wedi rhoi cyngor i Gomisiynydd y Gymraeg drwy ddweud nad yw’r gwaith o ddiogelu a hyrwyddo iaith byth yn dod i ben.

Bu Graham Fraser, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada [Saesneg a Ffrangeg] rhwng 2006 a 2016, yn siarad yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf yng nghynhadledd y Comisiynwyr Iaith.

Cyn y gynhadledd, dywedodd wrth golwg360 ei fod yn credu bod Meri Huws yn gwybod “nad oes ‘na wlad yr addewid” pan mae’n dod i bolisi iaith.

“Dyw bod yn y busnes polisi iaith ddim fel bod yn y busnes gofal iechyd, lle gallwch weithio tuag at bolisi o gyflwyno gofal deintyddol am ddim ac unwaith mae’r polisi yna’n cael ei gyflwyno, mae wedi’i gwblhau a gallwch symud ymlaen at rywbeth arall,” meddai.

“O achos y pwysau cenedlaethol a rhyngwladol o fabwysiadu’r Saesneg fel yr iaith dechnoleg, yr iaith fasnach a’r iaith fusnes, mae’n ymdrech barhaus.

“Dw i’n meddwl mai’r rheswm bod swydd Meri mor bwysig, a swyddi fel un hi, yw bod angen atgoffa Llywodraethau o hyd o’r her.

“Mae fel rhedeg lan a lawr grisiau symudol, os byddwch chi’n stopio, byddwch chi’n cael eich cario lan a lawr.

“Mae’n rhaid cadw atgoffa swyddogion y Llywodraeth bob amser o’r pwysigrwydd o sicrhau bod y ddwy iaith yn weladwy, yn glywadwy, yn hawdd i’w cyrraedd, ac yn gyfartal.”

Technoleg – “her a chyfle”

Dywedodd fod technoleg newydd yn “her fawr” i ieithoedd ledled y byd am mai Saesneg sy’n cael ei defnyddio i ddatblygu meddalwedd.

“Yn aml nid yw’r bobol sy’n datblygu’r feddalwedd yn meddwl bod y termau hynny yn y feddalwedd yn gorfod cael eu gosod yn y ddwy iaith. Dyna un o’r heriau mwyaf.”

Ond er hynny, mae Graham Fraser yn credu bod technoleg yn dod â chyfle newydd i sicrhau cydraddoldeb ieithyddol.

“Rydym wedi darganfod bod hi’n llawer haws i sicrhau gwasanaeth cyfartal [ar-lein] nag i sicrhau bod staff yn eu lle ar bob cownter i wasanaethu’r unigolyn yn ei iaith ddewisol.

“Mae ‘na fwyty ym maes awyr Toronto lle mae ‘na ipads ar bob bwrdd a gallwch archebu eich bwyd yn yr iaith ry’ch chi’n dewis a bydd yn cael ei drosglwyddo i gegin uniaith a byddan nhw’n paratoi’r pryd a bydd gweinydd uniaith yn dod â’r bwyd i’r bwrdd.

“Ry’ch chi wedi archebu’r bwyd yn Ffrangeg ond does dim yr un siaradwr Ffrangeg wedi bod yn delio â’ch archeb drwy gydol y broses.”