Car trydan Tesla
Mae angen cyflwyno mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan rhwng gogledd a de Cymru, yn ôl un o aelodau Plaid Cymru.
Yn ôl Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas, mae “nifer o etholwyr” wedi lleisio pryder am ddiffyg pwyntiau gwefru a chyfleusterau i yrwyr cerbydau trydan yng Nghymru.
Mae modd gyrru o ogledd Cymru i Ynysoedd Erch yn yr Alban gan gael mynediad at gyfleusterau gwefru cerbydau trydan, ond nid o ogledd Cymru i Gaerdydd.
Hefyd mae’n debyg bod 97,000 o gerbydau trydan a 1,500 o bwyntiau gwefru yn y Deyrnas Unedig, ond dim ond 13 pwynt gwefru sydd yng Nghymru – does dim un yn y canolbarth.
Cymru werdd
“Mae angen strategaeth genedlaethol arnom, gyda thargedau uchelgeisiol am gyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar hyd a lled Cymru,” meddai Simon Thomas.
“Os ydym o ddifrif am leihau ein hallyriadau o 80% erbyn 2050, ac os ydym o ddifrif am fod yn barod i symud at gerbydau trydan, rhaid i ni weld gweithredu gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na fydd Cymru ar ei hôl hi.”