Y gwasanaethau brys tu allan i Arena Manceinion wedi'r ffrwydrad (Llun: Peter Byrne/PA Wire)
Mae Ysgrifennydd Cymdeithas Gymraeg Manceinion wedi dweud wrth golwg360 y bore yma ei bod yn cydymdeimlo â’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y ‘digwyddiad brawychol’ yn y ddinas neithiwr.

Dywedodd Anne Hunt ei bod hi’n “teimlo’n drist” wrth i’r digwyddiad sy’n cael ei drin fel ymosodiad brawychol ddigwydd ar garreg ei drws.

Esboniodd ei bod hi’n byw yn ardal Stockport, rhyw bum milltir o ganol y ddinas, ac mae gorsaf drenau Victoria yn parhau ar gau wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliadau.

“Maen nhw wedi cau  Victoria Station, ac mae llawer o bobol yn dod i’r ddinas drwy Victoria Station i weithio, a llawer o bobol ifanc oedd eisiau mynd adre neithiwr wedi cael trafferthion… felly mae’n rhaid bod yna le yna.”

Dywedodd hefyd ei bod hi’n disgwyl gweld presenoldeb uwch o’r heddlu yn y ddinas heddiw.

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Manceinion, Ian Hopkins, wedi cadarnhau eu bod yn trin y digwyddiad neithiwr fel “digwyddiad brawychol tan fydd gennym wybodaeth bellach.”

Erbyn hyn mae 22 wedi’u lladd a 59 wedi’u hanafu yn dilyn ffrwydrad yn Arena Manceinion ar derfyn cyngerdd y gantores bop, Ariana Grande.