Mae maniffesto’r blaid Geidwadol yn addo cryfhau’r cysylltiadau rhwng Lloegr a Chymru trwy “hybu cyfleoedd” rhwng dinasoedd yng Nghymru a dinasoedd dros Glawdd Offa.
Caiff hyn ei gyflawni trwy ddatblygu Bargen Ddinesig Abertawe, rhanbarth Prifddinas Caerdydd a sefydlu Dêl Twf Gogledd Cymru fyddai’n “cysylltu gogledd Cymru a gogledd Lloegr”.
Yn eu maniffesto mae’r Ceidwadwyr yn honni bydd busnesau Cymreig yn “ganolog” o ran eu polisïau masnach ac allforio, ac yn addo buddsoddi mwy mewn isadeiledd.
Mae’n debyg bydd rheilffyrdd a gorsafoedd trên Cymru yn cael eu moderneiddio ac mae’r blaid am “ddarganfod ffyrdd o reoli a defnyddio adnoddau naturiol Cymru ar gyfer cynhyrchu egni.”
Mae’r blaid hefyd yn ymrwymo i “ddiogelu diddordebau ffermwyr Cymreig” ac i gefnogi S4C a’i “rôl allweddol yn amddiffyn yr iaith Gymraeg.”