Fe fu cynnydd o 11% yn nifer yr ymweliadau tramor â Chymru y llynedd o gymharu â 2015.
Yn ôl ffigurau newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe fu cynnydd hefyd o dros 8% yn faint o arian gafodd ei wario ar yr ymweliadau â Chymru yn yr un flwyddyn.
Nifer yr ymweliadau rhyngwladol i Gymru’r llynedd oedd 1.074 miliwn, a’r gwariant cysylltiedig oedd £444m.
Dyma’r tro cyntaf ers 2008 i Gymru ddenu dros filiwn o ymweliadau tramor, a dyma’r ffigurau gwariant uchaf sydd wedi’u cofnodi ar gyfer Cymru.
“Rhyngwladol ein hagwedd”
“Mae’r diwydiant twristiaeth ledled Cymru mewn sefyllfa bositif iawn,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates. “Ac mae hyn yn rhagor o newyddion da am berfformiad ein marchnadoedd rhyngwladol.”
“Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol – yn enwedig o ystyried canlyniadau Refferendwm yr UE – yw gwneud mwy eto i adeiladu ar yr ymdeimlad hwn o hyder a momentwm i sicrhau ein bod yn rhyngwladol ein hagwedd.”