Arglwydd Thomas o Gwmgiedd (Llun: Prifysgol Aberystwyth)
Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd sydd wedi ei benodi yn Ganghellor nesaf Prifysgol Aberystwyth.
Bydd ei gyfnod yn y gwaith yn dechrau ym mis Ionawr 2018, pan fydd yn olynu’r Canghellor presennol Syr Emyr Jones Parry sy’n dod i ddiwedd ei gyfnod ym mis Rhagfyr 2017 ar ôl deng mlynedd o wasanaeth.
Ar hyn o bryd, mae’r Arglwydd Thomas yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, ac yn Llywydd Llysoedd Cymru a Lloegr, ond bydd yn ymddeol o’r farnwriaeth ar Hydref 1 eleni.
“Aberystwyth oedd coleg prifysgol cyntaf Cymru pan agorodd yn 1872, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn ei llwyddiannau academaidd a’i chyfraniad at gymdeithas Cymru a’r byd ehangach,” meddai’r Arglwydd Thomas.
“Mae cymryd yr awenau fel Canghellor y flwyddyn nesaf yn destun balchder i mi ac rydw i’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan yn llwyddiant parhaus y Brifysgol hanesyddol hon.”
Mae rôl anrhydeddus y Canghellor yn canolbwyntio ar ddyletswyddau llysgenhadol a seremonïol, gan gynnwys llywyddu dros seremonïau graddio blynyddol y Brifysgol.
Ar hyn o bryd, mae Syr Emyr Jones Parry yn Ganghellor ac yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth. Mae’r ddwy rôl bellach yn cael eu rhannu ac mae proses ar wahân wedi dechrau i recriwtio Cadeirydd newydd y Cyngor ar gyfer mis Ionawr 2018.
Cefndir y Canghellor newydd
Ganwyd Roger John Laugharne Thomas yng Nghaerfyrddin,ac fe gafodd ei fagu ar aelwyd Gymraeg yn Ystradgynlais.
Astudiodd y Gyfraith yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, cyn mynd yn Gymrawd y Gymanwlad i Ysgol y Gyfraith Prifysgol Chicago.
Cafodd ei alw i’r Bar yn Gray’s Inn yn 1969 a daeth yn Feinciwr yno ym 1992. Bu’n gweithio yn y Bar Masnachol yn Llundain o 1971 a daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1984.
Penodwyd yr Arglwydd Thomas yn Farnwr Uchel Lys Cymru a Lloegr yn 1996 a bu’n gweithio yn Adran Mainc y Frenhines a’r Llys Masnachol.
Rhwng 1998-2001, roedd yn farnwr ar Gylchdaith Cymru a Chaer. Fe oedd y Barnwr â Gofal am y Llys Masnachol yn Llundain rhwng Ebrill 2002 a Gorffennaf 2003 pan gafodd ei benodi yn Arglwydd Ustus Apêl.
Yr Arglwydd Thomas yw Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol Cymru, Cymdeithas Cyfraith Fasnachol Cymru, a Chymdeithas Hanes Cyfraith Cymru.