Dysgwraig sydd “wedi blino” ar agwedd y BBC tuag at Gymru, yw un o’r hanner cant o ymgyrchwyr sydd wedi penderfynu gwrthod talu eu trwyddedau teledu fel safiad o blaid datganoli grym dros ddarlledu.

“Dw i wedi blino gyda sut mae BBC yn trin ni yng Nghymru a sut mae cyllid S4C yn cael ei dorri a’i dorri,” meddai Miri Collard wrth golwg360.

“Bydd dim byd ar ôl os fydd y toriadau yn parhau fel hyn. Dim ond cwyno oeddwn i i ddechrau ond, ar ôl gwylio rhaglen Question Time, wnes i sylweddoli bod agwedd y BBC yn sarhaus a’n hollol annerbyniol.

“Os gawn ni chwarae teg wrth gwrs [wna’i dalu’r drwydded],” meddai wedyn. “Ond dw i ddim yn barod i dalu os gawn ni ddim. Felly dw i’n cymryd rhan yn ymgyrch Cymdeithas yr Iaith oherwydd digon yw digon… Mae angen i ni gael cyfrifoldeb dros gyfryngau ein hunain.”

Mae hanner cant o bobol wedi penderfynu gwrthod talu eu trwyddedau teledu fel safiad o blaid  datganoli grym dros ddarlledu i Gymru. Yn eu plith y mae Emyr Llywelyn, ynghyd â Chadeirydd presennol Cymdeithas yr iaith Gymraeg, Heledd Gwyndaf.