Guto Bebb, Aelod Seneddol Aberconwy
Mae Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Phrif Weithredwr newydd S4C.
Yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb, amser a ddengys a fydd cael cyn-was sifil Llywodraeth Cymru yn bennaeth ar S4C yn golygu y bydd llywodraeth Cymru yn cael mwy o ddweud ar ddyfodol y sianel… os mai hynny ydi dymuniad pobol Cymru.
Fe ddaeth y cyhoeddiad am benodiad Owen Evans ddydd Llun yr wythnos hon (Mai 15), ac y bydd yn olynu Ian Jones yn ddiweddarach eleni.
“Dydw i ddim yn ei nabod o, a dw i’n gredwr cryf nad ydych chi’n beirniadu neb tan i chi eu cyfarfod nhw a gweld sut maen nhw’n gweithredu,” meddai Guto Bebb, sy’n Is-ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth Llundain.
“Ar hyn o bryd, y bwriad ydi bod holl ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i ddod dan ofal San Steffan a dw i ddim yn meddwl bod penodiad un unigolyn yn mynd i newid y sefyllfa yna.”
Ond yn ôl Guto Bebb, bydd yr adolygiad arfaethedig ar ddyfodol ariannu S4C yn gyfle i godi’r cwestiwn.
“Dw i wedi dweud erioed os ydych chi’n mynd allan i gael astudiaeth ar ddyfodol S4C a gofyn i’r cyhoedd gyfrannu, lle’r cyhoedd ydi codi pryderon a’u dyheadau. Felly, os ydi’r cyhoedd yn gryf iawn o’r farn bod datganoli darlledu yn ateb i ryw broblem, yna eu lle nhw ydi dweud hynny.
“Os ydi hynny’n alwad sy’n dod yn dan yr adolygiad, yna mi gawn ni ei drafod bryd hynny.”