Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams, Llun: Gwefan y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae prosiect sydd yn annog pobol i ddysgu ieithoedd tramor wedi derbyn buddsoddiad fydd yn galluogi disgyblion mewn ardaloedd gwledig Cymru i fedru cymryd rhan.
Mae ‘Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern’ yn gosod mentoriaid ieithoedd tramor mewn ysgolion Cymreig gyda’r nod o annog disgyblion i ddewis ieithoedd modern ar gyfer eu hopsiynau TGAU.
Bydd y buddsoddiad £140,000 gan Lywodraeth Cymru yn galluogi datblygiad llwyfan ddigidol fydd yn golygu bod plant o ardaloedd anghysbell yn medru cymryd rhan yn ddigidol.
Dyma fydd trydedd flwyddyn y prosiect, ac mae’n debyg bod ysgolion sydd eisoes yn rhan ohoni wedi gweld cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd ar lefel TGAU.
“Ymestyn y cyllid”
“Ein huchelgais i bob dysgwr yng Nghymru yw astudio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith dramor fodern yn yr ysgol gynradd,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.
“Rwyf i’n falch i ymestyn y cyllid ar gyfer y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern, yn sgil ei lwyddiant a’i gyfraniad at ein nod o gynyddu’r nifer o bobl ifanc sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern.”