E-sigaret Llun: PA
Mae pleidlais derfynol yn cael ei chynnal yn y Senedd heddiw ar fesur sydd wedi’i anelu at wella iechyd cyhoeddus Cymru.
Mae’n cynnwys gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus a chyflwyno trwyddedau i rai sy’n cynnig gwasanaethau tatŵio.
Ond daw’r bleidlais bron i flwyddyn ers i fersiwn gynharach ohoni fethu ar ddiwedd tymor y Cynulliad y llynedd.
Bellach mae gwelliannau wedi’u cyflwyno i’r mesur, gan gynnwys diddymu’r lled-waharddiad ar e-sigarets, a galw ar weinidogion i lunio strategaeth i fynd i’r afael â gordewdra.
Ffrae e-sigarets
Yn wreiddiol roedd y Mesur am weld e-sigarets yn cael eu gwahardd o fannau cyhoeddus, gyda’r syniad wedi’i feirniadu gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Er hyn roedd disgwyl i Blaid Cymru gefnogi’r Mesur tan iddyn nhw benderfynu peidio ar y funud olaf yn dilyn sylwadau’r cyn-Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, am y blaid yn ystod dadl.
Y Mesur
Fe fydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio heddiw ar y Mesur sy’n cynnwys:
– Gwahardd ysmygu ar dir ysgol ac ysbytai, meysydd chwarae cyhoeddus ac ardaloedd awyr agored mewn lleoliadau gofal plant.
– Sicrhau trwyddedau ar gyfer triniaethau tyllu’r cord, aciwbigo, electrolysis a tatŵio gan wahardd tyllu rhannau personol o’r corff ar gyfer unrhyw un o dan 18 oed.
– Sicrhau bod awdurdodau lleol yn paratoi strategaeth toiledau lleol, gan gynnwys asesu’r angen am doiledau at ddefnydd y cyhoedd a manylion sut y bydd hyn yn cael ei wireddu.
“Mae’n canolbwyntio’n arbennig ar hybu iechyd plant a phobl ifanc,” meddai Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.
“Nod y cynigion fel gwahardd smygu ar dir yr ysgol, lleoliadau gofal plant, a meysydd chwarae yw diogelu plant rhag dod i gysylltiad ag ymddygiadau smygu. O ganlyniad, bydd plant a phobl ifanc yn llai tebygol o ddechrau smygu eu hunain.