Cylchgrawn Y Gymraes, (Llun: Cylchgronau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Mae gwefan newydd wedi lansio sy’n hel ynghyd mwy na 450 o gylchgronau Cymreig ar un safle.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd wedi datblygu’r wefan Cylchgronau Cymru ac mae’n ychwanegu at eu hadnoddau digidol, lle cafodd y wefan Papurau Newydd Cymru ei lansio pedair blynedd yn ôl.
Mae modd pori drwy gylchgronau yn y Gymraeg a’r Saesneg rhwng 1735 a 2007 ar y wefan fesul cyfnodolyn, rhifyn neu flwyddyn.
‘Ffenestr unigryw’
Ymhlith y teitlau ar y wefan mae’r cylchgrawn Cymraeg cyntaf – Tlysau yr Hen Oesoedd (1735) gafodd ei olygu gan Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn.)
Mae modd cael cip hefyd ar gylchgrawn Y Gymraes – cylchgrawn misol a Chymraeg i ferched gafodd ei sefydlu gyda chefnogaeth Augusta Hall, Gwenynen Gwent.
Ac yn fwy diweddar mae modd cael cip ar Y Gwyddonydd (1963 – 1996) oedd yn trafod pynciau gwyddonol.
“Mae Cylchgronau Cymru yn cynnwys ein hanes deallusol fel cenedl,” meddai Dafydd Tudur, Rheolwr Adran Mynediad Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
“Mae’n ffenestr unigryw i’r ffordd rydyn ni wedi deall a dehongli ein hunain a’r byd o’n cwmpas dros gyfnod o dros bron i dair canrif.”