Rhaglen Eisteddfod yr Urdd 2017 (Llun: gwales.com)
Mae’r Urdd wedi amddiffyn eu penderfyniad i gyhoeddi llyfryn ‘Rhaglen Swyddogol’ mwy na’r arfer ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr Taf ac Elai eleni.

Cafodd y rhaglen ei chyhoeddi wythnos ddiwethaf ac yn barod mae wedi denu tipyn o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol am ei maint anferthol o gymharu â rhaglenni’r gorffennol.

Mae’r rhaglen yn 140 tudalen o hyd, â thudalennau A4 (yn hytrach na A5 fel y bu o’r blaen), gyda llwyth o luniau mawr ag ysgrifen fân, ac yn costio £7 yr un.

Yn ogystal â’r ffaith bod y rhaglen yn ddwbl y maint arferol a llawer trymach – mae’n debyg bod y rhaglen ei hun ddim yn dechrau tan dudalen 52 – mae pryderon bydd y llyfryn yn lletchwith i’w chario.

“Amser newid”

Yn ôl yr Urdd mae’r rhaglen newydd tipyn yn fwy gan ei fod yn cynnwys mwy o wybodaeth na’r arfer ac maen nhw wedi croesawu’r newidiadau fel “datblygiad cyffrous.”

“Roeddem yn teimlo ei bod yn amser newid y rhaglen, i roi diwyg mwy ffres a modern iddo ac rydym yn hapus iawn gyda beth sydd wedi ei greu,” meddai llefarydd ar ran yr Urdd wrth golwg360.

“Mae ynddi fwy o wybodaeth am yr ardal, y sioeau nos ac amserlenni’r pebyll ar y Maes yn ogystal wrth gwrs ag amserlen y rhagbrofion a’r pafiliwn. Mae’n ddatblygiad cyffrous ac yn cyd-fynd gyda datblygiadau eraill fel yr holl wybodaeth sydd ar gael am ddim ar ap yr Eisteddfod.”