Lucie Jones (Llun o'i chyfrif Twitter)
Mae BBC Cymru wedi amddiffyn eu trydariad dadleuol am y Gymraeg yn ystod cystadleuaeth Eurovision neithiwr.
Roedden nhw’n trydar yn ystod y gystadleuaeth, wrth i Lucie Jones o Bentyrch ger Caerdydd gynrychioli Prydain.
Dyma’r neges ymddangosodd ar dudalen Twitter ‘BBC Wales’:
Portugal in Welsh?
Portiwgal.
No, really.#Eurovision #ESC2017
(We still haven’t forgiven them for #Euro2016…)
— BBC Wales (@BBCWales) May 13, 2017
Roedd y neges wedi ennyn ymateb chwyrn gan ddefnyddwyr Twitter.
‘Un trydariad mewn cyfres’
Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru wrth golwg360: “Un trydariad mewn cyfres oedd hon yn cefnogi ymdrechion Lucie Jones yn yr Eurovision.
“Roedd y trydariad yn cyfeirio at gamgymeriad yn y Ffrangeg wnaed ynghynt yn y noson.
“Dychanu’r camgymeriad oedd y bwriad a dim arall.”