Hannah Roberts, Dysgwr y Flwyddyn 2016 - pwy fydd yn fuddugol eleni?
Mae pedwar ymgeisydd wedi cyrraedd y brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, gydag enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern ym mis Awst.
Cafodd y rownd derfynol ei chynnal yn Oriel Ynys Môn yn Llangefni ddoe.
Y pedwar sydd wedi cyrraedd y brig yw Hugh Brightwell o Ellesmere Port, Emma Chappell o Ddeiniolen, Richard Furniss o Langefni a Daniela Schlick o Borthaethwy.
Llongyfarch y pedwar
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, Elwyn Hughes: “Roedd yn hynod braf croesawu pawb draw atom i Langefni dros y penwythnos ar gyfer y rownd gyn-derfynol, a chawsom ein plesio’n arw gyda safon pob un o’r cystadleuwyr eleni.
“Mae’n biti nad oes modd i bawb gyrraedd y rownd derfynol, gan fod y safon mor uchel, a phawb yn ysbrydoliaeth, nid yn unig i ddysgwyr eraill ond i Gymry Cymraeg hefyd.
“Mae’n brofiad arbennig cael cyfarfod a siarad gyda’r rheiny sydd wedi cystadlu a chlywed am sut mae dysgu Cymraeg wedi siapio a newid eu bywyd.
“Rydym yn llongyfarch pob un ymgeisydd yn wresog, ac yn diolch iddyn nhw, nid yn unig am gystadlu ond am eu hymroddiad i’r iaith a’n diwylliant. Dymuniadau da i bob un ohonyn nhw yn y dyfodol.”
Plesio’r beirniaid
Y beirniaid eleni yw Jenny Pye, R Alun Charles a Nia Roberts.
Wrth gyhoeddi’r rhestr fer o bedwar, dywedodd Jenny Pye: “Rydym i gyd wedi cael modd i fyw yn cyfarfod yr holl ymgeiswyr ar gyfer y gystadleuaeth eleni.
“Mae’r safon wedi bod yn uchel, ac mae straeon pawb wedi bod yn hynod o ddiddorol.
“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ymgeisio, ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod Emma, Dani, Hugh a Richard eto yn y rownd derfynol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.”
Bydd yr enillydd yn derbyn tlws arbennig, yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £300 (Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor), a bydd y tri arall sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlysau, sydd hefyd yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £100 yr un (Teulu’r Wern, Talwrn).
Bydd y rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. Bydd yr enillydd hefyd yn cael ei g/wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.
Bydd seremoni Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yn Neuadd Tre Ysgawen, Môn, nos Fercher 9 Awst.
Y pedwar ar y brig
Hugh Brightwell
O ardal Sir Gaer y daw Hugh Brightwell, ac mae’n byw yn Ellesmere Port, sy’n agos iawn at y ffin gyda Chymru. Bu ef a’i wraig, Gilly’n siarad am symud i Gymru ar un adeg, a dyna pryd yr aeth ati ddechrau dysgu Cymraeg, er mwyn gallu sgwrsio’n syml gyda phobl yma yng Nghymru. Ond wrth iddo ddechrau dysgu, datblygodd ei ddiddordeb yn hanes a diwylliant Cymru, ac mae’r rhain yn agweddau sy’n rhoi pleser mawr i Hugh erbyn hyn. Aeth Hugh ati i ddysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau ac ar y we, gan fynychu mwy nag un dosbarth bob wythnos. Defnyddiodd wefan Memrise er mwyn datblygu’i eirfa, a bu’n mynychu nifer fawr o gyrsiau fel ysgolion haf ac ysgolion undydd er mwyn ei helpu i wella’i sgiliau.
Aeth ati i ddatblygu’i ddiddordeb mewn hanes ac archaeoleg ymhellach drwy astudio cyrsiau archaeoleg drwy gyfrwng y Gymraeg gyda Rhys Mwyn, ac mae hyn yn agwedd mae’n ei fwynhau’n arw.
Meddai Hugh, “Yn fyr, rydw i wedi mwynhau fy mhrofiadau’n dysgu Cymraeg a dwi’n bwriadu parhau i astudio.” Mae hefyd yn awyddus i rannu’i brofiadau gyda dysgwyr eraill, gan ei fod yn teimlo’i fod yn deall nifer o’r problemau mae dysgwyr yn eu hwynebu, ac felly mae’n awyddus i helpu cynifer o ddysgwyr â phosibl wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu Cymraeg.”
Emma Chappell
Cafodd Emma Chappell ei geni yng Nghaergrawnt ac fe’i magwyd yn Royston, Hertfordshire, ond erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Deiniolen ar lethrau’r Wyddfa yma yng Nghymru. Mae ganddi hi a’i phartner Arwel ddau fab, Deion a Guto sy’n siarad Cymraeg ac yn mynychu’r ysgol leol. Aeth Emma ati i ddysgu Cymraeg ar ôl cyfarfod ei phartner. Gwyddai fod yr iaith a hunaniaeth genedlaethol yn bwysig iawn iddo fo, ac felly, aeth ati i ddysgu’r iaith yn iawn. Roedd yn byw yn Warrington ar y pryd, ac yn ffodus, roedd dosbarth nos yn y dref, ac yna, pan symudodd i Gymru, aeth ati’n syth i ddysgu Cymraeg gyda chriw Cymraeg i Oedolion.
Mae Emma’n defnyddio Cymraeg yn ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor bob dydd, gyda chwsmeriaid, myfyrwyr, staff a chontractwyr, ac mae hefyd yn rhan o’r grŵp gweithredu’r Gymraeg ac wedi bod yn helpu rhai o’r staff gyda’u Cymraeg. Cymraeg hefyd yw iaith yr aelwyd, a’i bywyd cymunedol yn y pentref Cymraeg ei iaith, ac mae Emma’n chwarae rhan lawn ym mywyd y pentref.
Dywedodd Emma, “Byddwn i’n hoffi datblygu fy Nghymraeg yn y gwaith ac adra. Dwi’n gwybod fel mae’r plant yn tyfu y bydd ‘na fwy o sefyllfaoedd pan mae’n bwysig i ddeall beth sy’n mynd ymlaen.”
Richard Furniss
Mae Richard Furniss yn byw yn Llangefni gyda’i wraig, Delyth ac yn dysgu Cymraeg ers 2005. Yn wreiddiol, aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn ei helpu i gael swydd yn yr ardal, ond wrth iddo ddysgu mwy am Gymru, ei diwylliant a beth mae’r iaith yn ei olygu i bobl, roedd yn amlwg bod y Gymraeg wedi dod yn rhan bwysig o’i fywyd yntau. Mae’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn ddwyieithog.
Dysgodd drwy fynychu gwersi gyda’r nos ym Mangor a Llangefni, drwy Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor, a dywed ei fod hefyd wedi cael llawer o gymorth gan ei wraig a’i deulu yng nghyfraith wrth iddo ddysgu’r iaith.
Dywed fod dysgu Cymraeg wedi’i wneud yn fwy hyderus, ac mae’n teimlo’n barod i ddefnyddio’r Gymraeg yn ei fywyd bob dydd, yn y gwaith ac adref. Mae hefyd wedi’i helpu i ddeall mwy am hanes Cymru a’n diwylliant.
Meddai Richard, “Mae dysgu Cymraeg wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fy mywyd i. Rŵan dwi’n mynd i sioeau Cymraeg a gigs Cymraeg, ac yn mwynhau cyfarfod pobl newydd drwy gyfrwng yr iaith.”
Daniela Schlick
O’r Almaen y daw Dani’n wreiddiol, ond disgynnodd mewn cariad gyda Chymru pan ddaeth draw ar wyliau. Cymaint felly, nes iddi ddychwelyd i’r Almaen a mynd ati i ddysgu Cymraeg. Yna, ddwy flynedd yn ôl, pan oedd hi’n teimlo’n ddigon hyderus, gadawodd ei chartref a’i swydd a symud draw i Borthaethwy. Yn syth, cofrestrodd mewn dosbarth Cymraeg, ac erbyn hyn mae wedi pasio’r cwrs Canolradd ac yn gobeithio dilyn y cwrs Uwch.
Mae’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, yn y gwaith ac yn gymdeithasol, ac mae’n mwynhau ymwneud gyda gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol yn arw. Mae wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eisoes, daeth yn ail yn y gystadleuaeth Llefaru i ddysgwyr y llynedd, ac mae’n aelod o gôr llwyddiannus Dros y Bont, heb sôn am Gôr yr Eisteddfod ei hun.
Mae’n awyddus iawn i weld rhagor yn mynd ati i ddysgu Cymraeg, ac yn fwy na pharod i helpu unrhyw un. Mae’n aelod o bwyllgor dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ac yn mynychu sesiynau siarad yn siop Palas Print, Caernarfon yn rheolaidd, gan ddod â dysgwyr newydd gyda hi’n aml.
Dywedodd Dani, “Roedd rhaid i mi symud i Gymru, roedd y lle wedi fy swyno a’r iaith yn bwysig iawn i mi. Mae’r ardal, y natur, y mynyddoedd, ac yr iaith wrth gwrs yn hyfryd, ac rwy’n falch iawn o fyw yma yn ei ganol.”