Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi atal trwydded safle prosesu gwastraff yn Noc Penfro oherwydd pryderon am “lygredd difrifol.”
Cyflwynodd CNC hysbysiad gorfodi i Sundorne Products ym mis Awst 2016 yn dilyn ymchwiliad i broblemau arogl a phryfed ar y safle, a chwynion gan Ysbyty De Sir Benfro sydd gerllaw’r safle.
Apeliodd Sundorne Products yn erbyn yr hysbysiad ym mis Hydref 2016 ond penderfynodd y cwmni i roi’r gorau i’r apêl mis Chwefror eleni.
Mae’r drwydded yn ei hatal yn rhannol, sy’n golygu bydd y cwmni yn parhau i fedru prosesu gwastraff ar y safle ond ddim yn medru ei storio.
Dim dewis
“Rydym wedi ceisio gweithio gyda’r gweithredwr, gan ddarparu cyngor ac arweiniad ar y materion, ac wedi rhoi nifer o gyfleoedd iddynt fynd i’r afael â’r problemau,” meddai Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer CNC, Andrea Winterton.
“Fodd bynnag, hyd yn hyn ni ddiwallwyd amodau’r drwydded, felly nid oes gennym unrhyw ddewis ond i atal y drwydded yn rhannol er mwyn diogelu’r gymuned leol a’r amgylchedd.”