Albatros crwydrol ar ei nyth (Llun: Prifysgol Abertawe)
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi profi bod yna gysylltiad rhwng pwysau aderyn a pha mor uchel yw ei obaith o oroesi – a bod hynny’n bwysicach yng ngheiliogod nac yn ieir yr albatros crwydrol.

Yr Athro Luca Börger sydd wedi bod yn arwain y prosiect ar y cyd â phartneriaid yn y Swistir, Ffrainc a’r Unol Daleithiau.

Gwraidd y prosiect oedd ymchwil PhD gan Tina Cornioley i fàs corfforol yr aderyn, oedd wedi dangos bod màs adar gwrywaidd yn bwysicach i’w goroesiad nag i adar benywaidd.

Mae’r ymchwil yn dangos bod perthynas rhwng màs corfforol a gallu i oroesi’r tywydd, i fwydo cywion ac i oroesi’r wythnosau cyntaf, a’i fod hefyd yn effeithio ar allu’r adar i atgenhedlu. Ac mae’r ymchwil yn danos fod adar gwrywaidd yn ymdopi’n well nag adar benywaidd.

Mae’r ymchwil wedi’i gyhoeddi gan y Gymdeithas Frenhinol.

“Roedd ein canlyniadau wedi dangos, ymhlith rhywogaethau sy’n byw’n hir, fod perthynas rhwng màs corfforol a goroesiad yn gallu bod yn annibynnol o amgylchiadau amgylcheddol,” meddai’r Athro Luca Börger.

“Mewn geiriau eraill, mae tadau’n bwysig o safbwynt yr albatros crwydrol, ac fe allai hyn fod yn bwysig hefyd i gadwraeth y rhywogaeth.”